Y Cyfarfod Llawn |
Dyddiad y
cyfarfod: |
|
|
Amser y
cyfarfod: |
||
|
||
|
||
|
Agenda (75)v3 |
1. Cwestiynau i'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol (45 munud)
|
2. Cwestiynau i Weinidog yr Amgylchedd a Datblygu Cynaliadwy (45 munud)
|
3. Cwestiynau i Gomisiwn y Cynulliad (15 munud)
|
4. Dadl ar Adroddiad y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol ar Roi Pwerau i Weinidogion Cymru yn Neddfau’r DU (60 munud)
NDM5022 David Melding (Canol De Cymru)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
Yn nodi adroddiad y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol ar yr ymchwiliad i'r pwerau a roddir i Weinidogion Cymru yn neddfau’r DU, a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ddydd Gwener 23 Mawrth 2012.
Noder: Gosodwyd ymatebion y Prif Weinidog, y Pwyllgor Busnes a Chomisiwn y Cynulliad i'r adroddiad yn y Swyddfa Gyflwyno ar 20 Mehefin 2012.
Dogfennau ategol: Adroddiad y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol |
5. Dadl ar Ymchwiliad y Pwyllgor Plant a Phobl Ifanc i Weithredu Mesur Dysgu a Sgiliau (Cymru) 2009 (60 munud)
NDM5021 Christine Chapman (Cwm Cynon)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
Yn nodi adroddiad y Pwyllgor Plant a Phobl Ifanc ar yr ymchwiliad i Weithredu Mesur Dysgu a Sgiliau (Cymru) 2009, a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 8 Mai 2012.
Noder: Gosodwyd ymateb Llywodraeth Cymru ar 20 Mehefin 2012.
Dogfennau ategol: |
6. Dadl y Ceidwadwyr Cymreig (60 munud) NDM5025 William Graham (Dwyrain De Cymru)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn cydnabod cryfder y teimlad yn erbyn cynigion i israddio gwasanaethau yn Ysbyty Llwynhelyg yn Sir Benfro ac yn mynegi pryder ynghylch yr ymgysylltiad â chlinigwyr a’r cyhoedd;
2. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i weithio gyda Deoniaeth Cymru ac i adolygu’r arferion a ddefnyddir wrth gadw a hyfforddi meddygon iau;
3. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i weithio gyda’r Colegau Brenhinol i adolygu perthnasedd y canllawiau diogelwch clinigol a sicrhau bod y canllawiau hyn wedi’u teilwra ar gyfer amodau lleol, ac yn adlewyrchu amodau lleol, gan gynnal arfer gorau; a
4. Yn galw ar y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol i egluro sefyllfa gyllido bresennol y Byrddau Iechyd Lleol yng Nghymru.
Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:
Gwelliant 1 - Jane Hutt (Bro Morgannwg)
Dileu pwynt 1.
Gwelliant 2 - Jocelyn Davies (Dwyrain De Cymru)
Cynnwys ar ddiwedd pwynt 2:
‘gyda’r nod o sicrhau bod yna lefelau staffio digonol ym mhob rhan o Gymru’
[os derbynnir gwelliant 3, bydd gwelliant 4 yn cael ei ddad-ddethol]
Gwelliant 3 - Jane Hutt (Bro Morgannwg)
Dileu pwynt 3.
Gwelliant 4 - Jocelyn Davies (Dwyrain De Cymru)
Ym mhwynt 3 ar ôl ‘adlewyrchu amodau lleol’ cynnwys ‘, yn enwedig mewn ardaloedd gwledig ac ymylol,’ |
Cyfnod Pleidleisio |
7. Dadl Fer - WEDI'I GOHIRIO (30 munud)
NDM5024 Leanne Wood (Canol De Cymru): Arafu’r traffig i sicrhau diogelwch ein plant ysgol
Bydd y ddadl hon yn canolbwyntio’n bennaf ar leihau cyfyngiadau cyflymder y tu allan i ysgolion er mwyn amddiffyn plant ar eu ffordd i’r ysgol.
|
Cynhelir Cyfarfod Llawn nesaf y Cynulliad am 13:30, ddydd Mawrth, 3 Gorffennaf 2012